Llwybr arfordir Llyn - Llyn coastal path Posted Saturday, May 20, 2006 by penllyn
Mae llwybr 95 milltir o amgylch arfordir Llyˆn wedi cael ei agor yn swyddogol ddydd Gwener.
Drwy ddilyn y llwybr arfordirol gall cerddwyr weld traethau, bryniau a rhostir a bydd cyfle i ymweld â threfi a phentrefi arfordirol yn ogystal â llefydd fel Eglwys Clynnog Fawr, Nant Gwrtheyrn, Eglwys Pistyll, Plas yn Rhiw, Plas Glyn y Weddw a'r Lôn Goed.
Mae'r llwybr yn cael ei hyrwyddo fel ffordd o gadw'n heini ac er ei fod eisoes ar y map ymwelwyr mae Cyngor Gwynedd am weld trigolion lleol yn ei ddefnyddio hefyd. "Mae'r farchnad ar gyfer ymwelwyr sy'n cerdded yn bendant ar gynnydd," meddai Wyn Evans, y swyddog sy'n gyfrifol am y cynllun.
"Ond rydyn ni am i bobl leol ei ddefnyddio hefyd i ddod yn heini," meddai. Mae'r llwybr wedi ei sefydlu gan y cyngor a Chyngor Cefn Gwlad Cymru ar hyd llwybrau cyhoeddus, ffyrdd tawel a thiroedd lle mae hawl i fynediad.
"Mae cerdded yn cael ei ystyried fel un o'r ffyrdd gorau sydd ar gael o gadw'n heini a dwi'n falch iawn o weld y datblygiad hwn yn symud ymlaen," meddai'r cynghorydd Tomos Evans.
"Mae'r llwybr arfordirol arbennig hwn yn adnodd gwerthfawr sy'n cysylltu nifer o safleoedd sydd o ddiddordeb mawr yn ddiwylliannol, hanesyddol ac amgylcheddol, gyda rhan fawr o'r llwybr yn dilyn y fan lle teithiodd pererinion yn ystod eu taith i Ynys Enlli.
"Rydyn ni'n gobeithio y bydd agor y llwybr yn swyddogol o fudd i fusnesau lleol oherwydd y cynnydd mewn lleoedd diddorol i bobl i gerdded a mwynhau yn Llyˆn," meddai.
Dywedodd Wyn Evans fod gwaith wedi bod yn cael ei wneud ar y llwybrau ers rhai blynyddoedd ond mai'r hwb olaf oedd prosiect arbennig dros y 12 mis diwethaf.
"Yn y dyfodol dwi'n edrych ymlaen at lwybr a fydd yn mynd o gwmpas holl arfordir Cymru," meddai.
"Ond am rwan gall y llwybr hwn yn Llyˆn gael ei ddefnyddio i hybu'r ardal."
| # 1 | |
| Enw / Name: | Anonymous Unregistered |
| E-bost / E-mail: | onrjty@hwbowg.com |
| Dyddiad / Date: | Wednesday, January 23, 2008 |
| ip: | 211.157.121.190 |
| Sylwadau / Comments | |
| fhIepT <a href="http://xzkdxqegtvsf.com/">xzkdxqegtvsf</a>, [url=http://exurvzighbvx.com/]exurvzighbvx[/url], [link=http://nguvhhcztsjy.com/]nguvhhcztsjy[/link], http://empqoihykkfe.com/ | |