Ysgolion yn wynebu Newid Posted Monday, December 19, 2005 by penllyn
Cofiwch i stori flaen y Llanw y mis diwethaf son am gynlluniau Cyngor Gwynedd i newid trefn ysgolion cynradd Llyn - a gweddiil ysgolion gwledig y sir wrth ragweld gostyngiad yn nifer eu disgyblion.
Ers hynny, cynhaliwyd cyfarfod ar gyfer holl lywodraethwyr ysgolion cynradd dalgylch Botwnnog lle cyflwynodd pennaeth ysgolion y sir, Dr Gwynne Jones, adroddiad manwl yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor. Y drefn sy'n cael ei ffafrio yw i ffederaleiddio neu glystyru ysgolion (sef, rhannu pennaeth a chorff llwyodraethol rhwng dwy neu ragor o ysgolion). Bu sôn hefyd am y posibiliadau o gau ysgolion gan ganoli'r addysg gynradd mewn ysgol fro, er y dylid nodi nad yw'r Cyngor yn dymuno cau unrhyw ysgol.
Roedd nifer o lywodraethwyr, rhieni ac athrawon yn bryderus iawn wedi'r cyfarfod a gynhaliwyd ym Motwnnog ym mis Hydref. Un a fu yno oedd y Cynghorydd Liz Saville,
'Rhaid cytuno bod gwasanaethu ardal wledig gyda phoblogaeth isel a gwasgaredig, megis LIyn, yn gostus. Mae cynnal pennaeth ym mhob ysgol yn ddrud. Os mai arbedion ariannol yw'r unig ystyriaeth, hawdd dod i'r casgliad mai lleihau nifer y prifathrawon yw'r ateb darbodus. Ond mae ystyriaethau eraill, megis ansawdd addysg em plant ac, i raddau, Cymreictod ein cymunedau. Oes, mae'n rhaid bod yn effro i'r angen i arbed arian, ond ffolineb fyddai neidio I newidiadau heb geisio canfod y canlyniadau.'
I raddau helaeth, mae'r drefn Ffederaleiddio heb ei phrofi. Mae arolygwyr wedi brolio nifer o ysgolion Llyn mewn adroddiadau disglair yn ddiweddar ac mae dylanwad em hathrawon ymroddedig yn mynd tu hwnt i ddysgu ysgrifennu a mathemateg. Mae'n debyg hefyd bod maint ein hysgolion yn Llyn yn cyfrannu at eu llwyddiant wrth gyflwyno'r iaith i ddisgyblion o gartrefi diGymraeg, ac at y Gymraeg a glywir ar wefusau plant yn yr iard chwarae. Beth yn union fydd effaith y drefn newydd ar addysg ein plant?
Mae disgwyl i lywodraethwyr pob ysgol gynradd yn Llyn anfon eu hawgrymiadau am sut bydd eu hysgol yn cyfrannu at yr addrefnu erbyn dechrau Rhagfyr.
o'r Llanw
| # 131 | |
| Enw / Name: | Anonymous Unregistered |
| E-bost / E-mail: | majtytvmpfr@lopgaj.com |