27% o boblogaeth Dwyfor yn uniaith Saesneg! Posted Wednesday, April 27, 2005 by penllyn
Yn ôl adroddiad iaith diweddar - Erbyn 2001, yr oedd 27% o boblogaeth Dwyfor yn uniaith Saesneg.
Hyd at 1971, allfudo oedd yn bennaf gyfrifol am y dirywiad yn y ganran o siaradwyr Cymraeg, ond ers 1981, gwelwyd mai mewnfudiaeth o bobl ddi-Gymraeg fu’n bennaf gyfrifol am y newid ieithyddol. Rhwng 1981 ac 1991, cynyddodd canran pobl uniaith Saesneg o 19% i 25% o’r boblogaeth gyfan. Erbyn 2001, yr oedd 27% o boblogaeth Dwyfor yn uniaith Saesneg.
Newidiadau ieithyddol yn Nwyfor rhwng 1981-2001
Roedd y mewnlifiad gynyddol o boblogaeth ddi-Gymraeg i Ddwyfor ar ôl 1981 i'w briodoli'n rhannol i economi de ddwyrain Lloegr yn 'gorboethi' gan arwain at gynnydd ym mhrisiau tai a symudiad pobl fwyfwy tua'r gorllewin i chwilio am eiddo rhatach. Roedd eraill am symud i fyw i'r cefn gwlad a chael bywyd symlach. Dengys y tabl isod y newid a fu yng nghanran siaradwyr Cymraeg Dwyfor fesul cymuned rhwng 1981 a 2001:

Yn 1981, roedd 82% o boblogaeth yr ardal yn siaradwyr Cymraeg, ac yr oedd 10 allan o 13 o gymunedau gyda 80%+ o siaradwyr Cymraeg. Erbyn 1991, yr oedd hynny wedi gostwng i 5 cymuned, ac yn 2001, gwelir mai dim ond 2 gymuned oedd ar ôl gyda chanran o 80%+ yn siarad Cymraeg. Mae rhai academyddion wedi nodi fod y trothwy o 80% o siaradwyr iaith yn y gymuned yn hanfodol i ddiogelu dyfodol yr iaith honno, oherwydd fod unrhyw beth dan y lefel hon yn annigonol i sicrhau’r ‘más critigol’ o siaradwyr sy’n angenrheidiol i’w chynnal.
Gwelwyd y gostyngiadau mwyaf yng nghanran siaradwyr Cymraeg yng nghymunedau Llanbedrog, Aberdaron a Llanengan. Yn ôl mesur yr Athro Harold Carter, erbyn 2001 dim ond Pwllheli a Llanaelhaearn o holl gymunedau Dwyfor oedd â chanran digon uchel o siaradwyr Cymraeg i sicrhau dyfodol yr iaith yn y cymunedau hynny. Meddai Carter & Aitchison:
Critically for the future of the language, the ... ward areas recording negative differences [between 1991 & 2001] ... are seen to be dominantly located within Y Fro Gymraeg. Particularly noteworthy are: ...a dispersed collection of areas in the Llyn Peninsula ...
canran y boblogaeth a anwyd tu allan i Gymru, 2001:
- yn y 12 mis cyn Cyfrifiad 2001, gwelir bod 5,780 o bobl wedi ymfudo i Wynedd, gyda 60% ohonynt yn dod o Loegr. Rhaid cofio fod nifer gymharol fechan o fewnfudwyr yn gallu cael effaith andwyol ar gymunedau os yw'r boblogaeth yn brin – er enghraifft, er mai dim ond 65 o bobl ddi-Gymraeg symudodd i Dudweiliog dros gyfnod o 10 mlynedd rhwng 1991-2001, eto gwelwyd gostyngiad o 10% yng nghanran y siaradwyr Cymraeg dros yr un cyfnod.
Mwy...More...
© penllyn.com 2001