O Ddrws i Ddrws - Canolfan newydd Posted Friday, February 18, 2005 by penllyn
Roedd Stryd y Plas, Nefyn yn fwrlwm o brysurdeb fore Gwener, 4 Chwefror pan agorwyd Drws Agored yn swyddogol gan Hywel Williams A.S. Daeth twr o gefnogwyr yr achos ynghyd i weld penllanw tair blynedd o waith dygn ac yr oedd yn amlwg fod yr hyn a gyflawnwyd yn eu bodloni.
Y mae 0 Ddrws i Ddrws, ers dwy flynedd bellach, wedi bod yn darparu cludiant cymunedol fforddiadwy ym Mhen Llyn ar gyfer y rhai hynny sydd angen cludiant o'r fath oherwydd oedran, afiechyd, anabledd neu oherwydd nad yw cludiant cyhoeddus yn ddigonol. Rhoddir blaenoriaeth i ofal iechyd ond ymgymerir hefyd a theithiau i gwrdd ag anghenion pob dydd er mwyn galluogi pobl i gymdeithasu a gwella ansawdd eu bywydau. Erbyn hyn mae trigolion Llyn yn hen gyfarwydd a gweld y cerbyd aml-bwrpas glas a gwyn gyda John Griffith, ein gyrrwr cyflogedig, yn cludo'r anabl i fannau pell ac agos. Ond dibynna'r fenter yn drwm ar wasanaeth rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n defnyddio eu ceir eu hunain i gwrdd ag anghenion dros ddau gain o gleientau. Er bod y defnyddwyr yn cyfrannu tuag at y costau rhaid i'r elusen ysgwyddo rhan helaeth o'r baich ariannol ac mae'r milltiroedd di-gyswllt - sef y pellter y mae'r gwirfoddolwyr yn ei deithio o'u cartrefi eu hunain i gartref y cwsmer ac yn ôl - yn gostus. Dyna pam mae angen cael gyrwyr ym mhob ardal ac ymroi yn ddi-baid i godi arian. Mae Adran Trafnidiaeth Cyhoeddus Gwynedd a nifer o bobl y penrhyn wedi bod yn haelionus ond nid hawdd yw dod o hyd i ffynonellau ariannol newydd, yn enwedig mewn ardal wledig fel hon ble nad oes ilawer o fusnesau mawr i noddi elusennau lleol.

Hywel Williams AS gyda Elaine Davies, un o sylfaenwyr Drws Agored,
yn ystod agoriad swyddogol eu swyddfa newydd yn Nefyn ddechrau'r mis.
Y ffactor yma a arweiniodd at y penderfyniad i brynu, adnewyddu ac addasu hen siop ger Y Groes yn Nefyn. Drwy wneud hyn yr oedd modd cael swyddfa heb dalu rhent ac ar yr un pryd gallesid gwneud darpariaeth ar gyfer unigolion ac asiantaethau eraill sy'n gwasanaethu'r gymuned a throsglwyddo'r elw a wneir i goffrau'r elusen. I'r perwyl hwn gwnaed ceisiadau llwyddiannus am grantiau i'r Cynulliad ac i Gyngor Gwynedd a derbyniwyd nawdd gan Nwy Prydain. Cwblhawyd y gwaith i safon uchel ac mae'r cymhorthion diweddaraf yn eu lle at wasanaeth defnyddwyr, ynghyd a chyfleusterau ar gyfer yr anabl. Mae yma swyddfeydd ar osod wrth yr awr neu yn ddyddiol ac ystafell gynhadledd eitha helaeth ar gyfer cyfarfodydd o bob math am bris rhesymol. Hefyd am delerau digon rhesymol, gellir liogi cyfrifiaduron wrth yr awr i wneud unrhyw waith neu i fynd ar y rhyngrwyd. Mae cyrsiau i oedolion wedi cychwyn yma'n barod a gwneir defnydd o'r ystafell gynghori. Mae croeso i unrhyw un ffonio Angela yn y swyddfa am ragor o fanylion neu alw i weld yr adnoddau sydd argael.
Os am ffynnu, rhaid i bob busnes ddatblygu a gwella, felly byddem yn falch o dderbyn awgrymiadau wrth baratoi ar gyfer y dyfodol. Byddem hefyd yn falch o glywed gan unrhyw un a ddymunai gynnig ei wasanaeth a'i arbenigedd. Y rhif ffôn ydy: (01758) 721777.
---------------------------------------------------------------------------
A new community centre was officialy opened by local MP Hywel Williams in Nefyn. The New centre is just off the groes at the top of stryd y plas in the old 'Mace' building. The Drws Agored (open door) centre is the base for the successful and vital 'o ddrws iddrws' service, the rural community transport system.
This service now has 216 clients with two employees that are supported by a network of volunteers. This service is much more than a taxi service, it provides much needed contact, services and interaction with some of the most needy in this rural area. Angela Jones of Llanbedrog works as a receptionist at the centre, and John Griffith of Tudweiliog is one of the drivers.
Apart from the O ddrws i ddrws service, the centre also houses I.T. facilities and is the venue for courses being run by coleg Meirion Dwyfor. There are eight courses being run including language lessons, arts and crafts courses and I.T. classes. A community web-site is also being run from the centre called stiwdio Nefyn.- stiwdio-nefyn
You can phone the centre - (01758) 721777 or go here- o ddrws i ddrws
© penllyn.com 2001