Cynllun Hen Felin -Aberdaron- Old mill Posted Thursday, November 18, 2004 by penllyn
'Siom Anferthol' - ond y pwyllgor am ddal ati
'Siom anferthol,' dyna deimladau pobol Aberdaron wedi i'r cynllun y bu gwaith mawr arno ers saith mlynedd fynd i'r gwellt yn gwbl annisgwyl - ond mae'r pwyllgor yn awyddus i ddal ati.
Ym 1997 aeth criw at ei gilydd i sefydlu Pwyllgor Adfywio Bro Aberdaron ac aethpwyd ati i lunio holiadur i weld beth oedd anghenion' fro. Un o'r pryf syniadau oedd adfer y felin a'r tir o'i hamgylch, a dwy flynedd yn ddiweddarach gyda chydweithrediad y perchennog, lluniwyd cynllun i adfer yr Hen Felin ac adeiladu nifer unedau newydd ar dir o'i hamgylch.
Canol Aberdaron yn dangos yr hen iard glo tua 1890
Roedd y cynllun yn cynnwys adfer yr Hei Felin ac adeiladu o'r newydd ystafell i arddangos hanes a diwylliant y fro, swyddfeydd ar gyfer llogi teithiau, canolfan wybodaeth i ymwelwyr siopau bychain a bwyty. Roedd cynlluniau hefyd i wneud gwelliannau amgylcheddol i ganol pentref. Sefydlu Cwmni Adfywio Melin Aberdaron (CAMA) fel cwmni cydweithredol cymunedol ym Mehefin 2003.
Y gobaith oedd creu rhai swyddi amser llawn a nifer o swyddi rhan amser tymhorol i bobol leol, cyrchfan ar gyfer ysgolion, mudiadau pererinion, ymwelwyr a grwpiau o bob math
Roedd y rhagolygon yn edrych yn addawol iawn. Cafwyd cefnogaeth i'r cynllun gan Gyngor Gwynedd, Cronfa Loteri'r Treftadaeth a CADW
a buddsoddwyd bron i £20,000 o arian cyhoeddus i sicrhau llwyddiant y cynllun. Sicrhawyd cyllid pellach o £40,000 i gyflogi pensaer i baratoi cynlluniau manwl fyddai, ynghyd â'r Cynllun Busnes, yn galluogi'r pwyllgor i wneud cais an £1 miliwn. Bryd hynny roedd y Cwmni yr edrych ymlaen yn hyderus i ddechrau adeiladu yn ystod 2005.
Yn ôl Bob Dorkins, aelod o'r pwyllgor, roedd y perchennog yn ymwybodol o'r datblygiadau drwy gydol y cyfnod ond, ar yr unfed awr a ddeg, hysbyswyd y pwyllgor, yn annisgwyl iawn nad oedd am werthu'r Felin na'r tir i'r Cwmni wedi'r cyfan.
Cysylltodd Y Llanw â'r Dr Osian Ellis perchennog Yr Hen Felin, ond nid oedd yr awyddus i wneud sylw ar y mater.
'Er gwaetha'r siom, mae'r pwyllgor yr awyddus i ddal ati,' meddai Bob Dorkins 'Dydan ni ddim isio i'r holl waith dros y saith mlynedd diwethaf fvnd i'r wellt yn llwyr,
meddai. 'Mae'r pwyllgor yn trio'i orau i fod yn gadarnhaol. Mae 'na lawer iawn o bres wedi ei wario a rydan ni wedi hel llawer iawn o arbenigedd, ac mi rydan ni ar hyn o bryd yn ceisio gweld a oes yna opsiynau eraill. Cawn weld.'
---------------------------------------------------------------------
The people of Aberdaron have been left terribly disappointed following the shock announcement that the plans for the old mill at Aberdaron have fallen through. The committee are, however, commited to carry on with the vision of turning the old mill into something a bit more practical than the eyesore it has become over the years.
Back in 1997 a local group was formed to re-generate the village. Following a questionnaire of local residents, it was decided to try and do something with the mill and the surrounding area and with the co-operation of the owner, a plan was drawn up by local architects.
The plan that had a public airing was endorsed by local residents, and a community ran non-profit company was formed in June of 2003. The owner Dr. Osian Ellis has now decided at the eleventh hour to pull back from the sale of the property.
© penllyn.com 2001