Marina PWLLHELI MarinaMarina PWLLHELI MarinaMarina PWLLHELI Marina Posted Saturday, October 23, 2004 by penllyn
Bu'r mudiad pwyso tai Cymuned yn canmol Dafydd Iwan ddoe wrth i arweinydd Plaid Cymru siarad o blaid cynnig i gynnal Astudiaeth Iaith ar gyfer datblygiad arfaethedig Marina Pwllheli. Galwodd Dafydd Iwan nid yn unig am astudiaeth iaith ond hefyd am asesiad ehangach o adnoddau Cyngor Gwynedd yn ardal Pwllheli. Dylai'r Cyngor fod yn gweithio ar brosiectau penodol i leihau effeithiau ieithyddol niweidiol y datblygiad, dwedodd Dafydd Iwan.


'Mae hyn yn gam pwysig gan Plaid Cymru,' meddai Aran Jones, Prif Weithredwr Cymuned. 'Mae'r syniad o astudiaeth iaith wedi'i dderbyn gan y Cynulliad, ond mae wedi bod angen arweiniad clir yn y maes er mwyn sicrhau dull safonol o fynd o gwmpas y gwaith. Bydd Cymuned yn cysylltu gyda'r Cyngor yn fuan er mwyn cynnig mewnbwn seiliedig ar ein profiadau ein hunain ac ar brofiadau grwpiau yn Iwerddon lle mae astudiaethau iaith yn cael eu defnyddio'n aml.'

'Rydym yn credu bod Dafydd Iwan wedi cynnig yr arweiniad roedd angen yn hyn o beth, nid yn unig ar ran Gwynedd ond ar ran Cymru,' ychwanegodd Aran Jones. 'Ein unig ofn ydy bod yr amserlen o dri mis er mwyn paratoi'r adroddiad braidd yn dynn ar gyfer sicrhau astudiaeth iaith blaengar a chynhwysfawr, a mynegodd swyddogion y Cyngor eu hunain ansicrwydd am ymarferoldeb yr amserlen. Beth sy'n bwysig yn hyn o beth ydy sicrhau astudiaeth iaith a fydd yn gweithio fel patrwm ar gyfer pob cyngor yng Nghymru, nid arbed wythnos neu ddwy yma ac acw.

Paswyd y cynnig i gynnal Astudiaeth Iaith heb bleidlais yn ei erbyn, a roedd aelodau Cymuned oedd wedi bod yn gwylio'r cyfarfod o'r oriel cyhoeddus yn gweld y canlyniad yn un pwysig. 'Mae'n dda gen i weld Plaid Cymru'n brwydro dros eu hegwyddorion sylfaenol,' dwedodd Richard Evans, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Cymuned, 'ac mae hyn yn debyg o gynyddu ffydd pobl leol ynddynt.'

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Aran Jones ar 01758-612712.

---------------------------------------------------------------------

The Welsh housing pressure group Cymuned have applauded the plaid Cymru councillor Dafydd Iwan for his stance on the proposal of a language impact study in relation to the proposed development of the Marina at Pwllheli. In a meeting on Tuesday it was agreed to defer the decision on doubling the capacity of the Marina until after such information had been gathered.

This is an important step and blueprints for this kind of study are already used in parts of Ireland, where developments over a certain size must include language impact studies. The three month period is going to be tight to achieve a meaningfull study, but it is a step in the right direction.

For more information, contact Aran Jones on 01758-612712.

Source - Cymuned

# 3
Enw / Name: Anonymous Unregistered
E-bost / E-mail: midobzki@hmfq.ie
Dyddiad / Date: Tuesday, April 22, 2008
ip: 65.190.219.70
Sylwadau / Comments
ichthyization unstung ponderomotive nuptiality unorganizedly overravish etymologize phonograph
<a href= http://www.dotcrawler.com/ >Dotcrawler.com</a>
http://www2.mde.k12.ms.us/1900/index.htm


© penllyn.com 2001
# 2
Enw / Name: Anonymous Unregistered
E-bost / E-mail: uizwzxr@jcdawyt.pro
Dyddiad / Date: Thursday, April 17, 2008
ip: 64.148.189.164
Sylwadau / Comments
ichthyization unstung ponderomotive nuptiality unorganizedly overravish etymologize phonograph
<a href= http://www.dive-malaysia.com >Pulau Sipadan Resort & Tours</a>
http://www.smith-pinching.co.uk/


© penllyn.com 2001
# 1
Enw / Name: Anonymous Unregistered
E-bost / E-mail: qanr@pnfpx.mc
Dyddiad / Date: Tuesday, March 25, 2008
ip: 68.34.207.111
Sylwadau / Comments
ichthyization unstung ponderomotive nuptiality unorganizedly overravish etymologize phonograph
<a href= http://www.angelfire.com/mt/wads/ >The Official Site of Booji</a>
http://www.hmsausa.com


© penllyn.com 2001
Enw / Name:
E-bost / E-mail:
Trwyddedair / Password:
Sylwadau / Comments:

© penllyn.com 2001