Lôn y Rhiw- Dim ymchwiliad cyhoeddus / New road for Rhiw Posted Tuesday, January 21, 2003 by penllyn
Mae cefnogwyr lôn newydd y Rhiw yn dathlu wedi i Sue Essex, Gweinidog Amgylchedd llywodraeth y Cynulliad benderfynu na fydd ymchwiliad cyhoeddus i adeiladu'r lôn wrth Sarn y Plas. Roedd dros gant wedi ysgrifennu i gefnogi'r cynlluniau a phymtheg yn erbyn.
'Rydw i'n falch iawn ein bod wedi cael sêl bendith y Cynulliad i fwrw ymlaen A'r cynllun yma,' meddai'r Cynghorydd Dafydd lwan, Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. 'Mae'n sefyllfa anodd, oherwydd cyfoeth amgylcheddol, gweledol a hanesyddol yr ardal, ac mae'r Cyngor wedi ymgynghori a thrafod yn helaeth i chwilio am yr ateb gorau. Y mae arbenigwr annibynnol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CADW a'r Cyngor Cefn Gwlad yn cytuno mai'r opsiwn yma yw'r gorau dan yr amgylchiadau.'
Bydd y gost o adeiladu'r ffordd newydd tua £2 filiwn ac mae'r Cyngor wedi cael addewid o arian gan y Cynulliad. Y gobaith yw dechrau ar y gwaith yn yr hydref.
Mae Gwydion Thomas, mab R. S. Thomas wedi datgan y bydd yn parhau i wrthwynebu'r cynllun. (or Llanw Ion. 2003)
---------------------------------------------------------------------------------------------------------
New road for Rhiw
Supporters of the proposed new road to Rhiw are celebrating after it was announced that Sue Essex the environment minister for the Assembly would not allow a public enquiery into the proposed scheme. It was revealed that over a hundered letters of support for the road had been recieved and only 15 objections.
The cost of the new road is expected to be around 2 million. The council has been promised the funds from the Assembly. Gwydion Thomas, R.S.Thomas' son said he intended to continue to oppose the project that cuts through the bottom of the garden at Sarn Y Plas.
The news was, however, welcomed almost universally by the people who actually live in the area.
© penllyn.com 2001