Gwrthryfel lywodraethwyr Ysgolion Posted Monday, July 22, 2002 by penllyn
Dal i gynyddu mae anfodlonrwydd llywodraethwyr ysgolion LI yn ynglyn A'r galw sydd arnyn nhw bellach i arolygu gwaith penaethiaid yr ysgolion. Mewn nifer o ysgolion mae'r llywodraethwyr yn ystyried gwrthryfela a gwrthod gwneud y gwaith.

Ddiwedd Mehefin derbyniodd corff llywodraethol pob ysgol lythyr yn gofyn iddyn nhw ddewis tri aelod i fynychu cwrs ar ddydd Sadwrn ac yn ystod gyda'r nos ym mis Medi, i'w hyfforddi i adolygu gwaith y penaethiaid. Tebyg fu'r ymateb mewn nifer o ysgolion - mae nhw'n ei gweld hi'n annheg gofyn i leygwyr wneud gwaith o'r fath.

Y cyntaf i gyhoeddi nad ydyn nhw'n fodlon gyrru cynrychiolwyr oedd Ysgol Foel Gron, a bellach mae ysgolion eraill, gan gynnwys Crud y Werin, Sarn Bach ac Abersoch, wedi

sgrifennu at yr Awdurdod Addysg yn nodi eu cwynion. Mae nifer o ysgolion eraill sydd heb gwrdd eto i drafod y sefyllfa.

Ers blynyddoedd bellach mae cyfres o lywodraethau wedi rhoi mwy a mwy o gyfrifoldeb ar ysgwyddau llywodraethwyr ysgolion, a'r 'Rheoli Perfformiad' ydi'r diweddaraf. Mae'n sefyllfa anodd i'r Awdurdod Addysg sy'n cael eu gorfodi i weinyddu'r cynllun. Daeth y cynllun i rym yn Lloegr ddwy flynedd yn ôl, a bellach mae'r llywodraeth yng Nghymru wedi mabwysiadu yr un cynllun.

or Llanw Gorffennaf 2002

Enw / Name:
E-bost / E-mail:
Trwyddedair / Password:
Sylwadau / Comments:

© penllyn.com 2001