llangwnnadl

Eglwys Llangwnnadl Church

Bu'r eglwys hon yn fan lle canfyddai pererinion solas a heddwch ar hyd y canrifoedd. Ac yn wir mae llawer o bererinion modern ac ymwelwyr â Phen Llyn yn mynd o'u ffordd i ymweld âg eglwys Sant Gwynhoedl. Mae teimlad o barhad o fewn y muriau hynafol hyn. Cydbletha'r gorffennol a'r presennol i greu naws sydd, rywsut, yn cyfoethogi pawb sy'n galw yno. Mae'r Ty hwn yn enghraifft gynnar o ymateb y Celtiaid i Dduw a'i arglwyddiaeth dros bob elfen o fywyd. Daethant yma yn gynnar yn y chweched ganrif gan greu Allor. O gwmpas yr allor hwn yr ymgartrefodd y teulu Cristnogol. Mae'r anedd ger afon, lle ceid dwr ar gyfer cynhaliaeth a bedyddio. Mae'n agos iawn i'r môr hefyd, gan fod y môr yn "draffordd' naturiol i deithio rhwng yr ynysoedd yma, Iwerddon a'r Cyfandir. Roedd y Celtiaid yn deithwyr brwd yn ceisio gwybodaeth.

Gwynhoedl oedd un o seintiau cynharaf Llyn. Yn yr eglwys mae carreg sy'n gysylltiedig â Gwynhoedl y credir iddi fod yn garreg fedd iddo. Canfyddwyd hi yn ystod y gwaith adnewyddu a wnaethpwyd i'r eglwys yn 1940, pan dynwyd plaster oddi ar y waliau. Yn wal ddeheuol yr eglwys y mae'r garreg i'w gweld, ac wedi ei thorri arni mae croes geltaidd. Gellir tybio fod y groes wedi ei phaentio ar y dechrau, ganfod olion lliw coch i'w gweld o hyd. Mae haneswyr amlwg wedi dyddio'r garreg i gyfnod o gwmpas 600 A.D.

Un arall o geririau'r blynyddoedd cynnar yw cloch sanctaidd o efydd. Mae'n dyddio yn ôl i'r chweched ganrif, a chaiff ei defnyddio mewn llyfrau safonol fel enghraifft gynnar o waith metel. Yn anffodus nid yw'r gloch yn yr eglwys bellach, ond gellir ei gweld yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Cafodd ei thynnu a'i symud i Castell Madryn yn ystod y gwaith adnewyddu yma yn y G19, a daeth i'r fei unwaith eto yn yr ocsiwn ym madryn pan gafodd ei gwerthu am £44 2s. Ond mae castin manwl ohoni yma nawr, a gafodd ei gyflwyno i'r eglwys ychydig flynyddoedd yn ôl gan y diweddar Mr. W. J. Hemp, Cricieth - hynafiaethwr amlwg a chyfaill ffyddlon i'r eglwys.

Roedd yr adeilad gwreiddiol wedi ei wneud o blethwaith, mwd a choed, hyd cyfnod y Normaniaid pan godwyd adeilad o garreg. Syml iawn oedd yr adeilad cyntaf - , petryaloghirsgwar gyda ffenestr fechan uwch ben yr allor a drws yn y wal orllewinol. Yn ystod y canoloesoedd daeth allor Gwynhoedl yn boblogaidd iawn, ac yn un o'r llefydd pwysicaf ar ffordd y Pererinion i Ynys Enlli. Cae Eisteddfa yw enw'r cae gyferbyn hyd heddiw, lle'r eisteddai'r Pererinion i orffwys.

Gwnaeth y poblogrwydd yma hi'n anghenrheidiol i ymestyn yr eglwys, ac felly ychwanegwyd yr ystlys ddeheuol ac adeiladwyd y rhodfa. Hefyd gosodwyd ffenestr fawr unionsyth yn y wal ddwyreiniol, a ffenestr lai yn y wal ddeheuol, yn ogystal â chreu drws yn y wal ddeheuol fel y mae heddiw.

Un o ganlyniadau dyrchafiad y Tuduriaid i orsedd Lloegr oedd cyfnod o ymestyn eglwysi yng Nghymru, ac felly ceir yr un patrwm yn Llangwnnadl, pan ychwanegwyd ystlys ogleddol a rhodfa arall yn 1520. Unwaith eto adeiladwyd ffenestr fawr yn y wal ddwyreiniol, a ffenestr lai yn y wal ogleddol. Yn ogystal caewyd yr hen ddrws gorllewinol, a thynnwyd y ffenestr fechan yn wal ddwyreiniol yr adeilad gwreiddiol i'w gosod yn wal orllewinol yr ystlys ogleddol newydd. Mae olion ohoni i'w gweld o hyd yn y wal hon. Yn lle hon gosodwyd trydydd ffenestr unionsyth, oedd yn gydnaws â'r rhai yn yr ystlysau deheuol a gogleddol. Ymhen peth amser, daeth y rhan ogleddol yma o'r eglwys yn ysgol blwyfol fu'n weithredol dan y G19.

Yn 1850 adnewyddwyd yr eglwys unwaith eto dan gyfarwyddyd Henry Kennedy - y pensaer enwog. Canlyniad hyn oedd fod yr hen len y gangell wedi ei thynnu, oherwydd dylanwad yr Oxford Movement oedd yn pwysleisio y dylai'r allor fod yn weladwy o bob rhan o'r eglwys mae'n debyg. Parodd gwaith Kennedy am 100 mlynedd, ond yn 1940 roedd mewn dirfawr angen o waith atgyweirio. Gwnaethpwyd y rhain drwy haelioni Mrs. Gough, Nanhorol - dynes dduwiol a charedig a wnaeth gymaint dros lawer o eglwysi Llyn. Roedd ganddi gysylltiad agos â'r plwyf, gan ei bod yn ddisgynnydd uniongyrchol i deulu Lloyd o Nantgwnnadl, a elwir yn awr yn Plas Llangwnnadl. Gwnaethpwyd gwelliannau pellach yn 1963 pan adnewyddwyd yr eisteddleoedd a'r llawr ymysg pethau eraill. Cyflwynwyd rhodd werthfawr a diddorol i'r eglwys, sef giat newydd â chroes geltaidd wedi ei gweithio arni a'r arysgrifiad "Ty Dduw". Cafodd ei gwneud a'i chyflwyno gan Mr. W. Jones, gof pentref Aberdaron. Gwnaethpwyd gwelliannau i'r to eto yn yr 1980au.

NESAF

 

Pilgrims over the centuries have found solace and peace in this House of God, and indeed, many modern pilgrims, present day visitors to the Lleyn Peninsula, have made it a part of their holiday to visit St. Gwynhoedl's. There seems to be a continuity within these ancient walls, the past and the present mingle to give a fragrance which somehow enriches all who stop here. This House is an early example of the Celtic response to God and His sovereignty over the whole of life. They came here in the early sixth century and erected an altar; around this altar the Christian family settled. The settlement is by the river, a source of water for sustenance and baptism. It is also near the sea, as the sea was a "natural highway" to travel between these islands, Ireland and the Continent. The Celts were keen travellers in search of knowledge.

Gwynhoedl was one of the earliest Saints of Llyn. In the Church there is a stone connected with Gwynhoedl which is also reputed to be his tombstone. It was discovered during the renovations of 1940, when the plaster was removed off the walls. It can be seen in the south wall of the Church, and on it is cut a Celtic Cross (ring cross). No doubt that the cross was originally painted, as traces of red colouring are still visible; this stone has been dated by eminent historians around the year 600 A.D.

Another relic of those early years is a bronze sanctus bell. It dates back to the 6th century, and is used in standard books as an early example of metal work. Unfortunately the original bell is no longer in the Church, but can be seen at the National Museum in Cardiff. It was removed during the renovations here in the l9th century to Madryn Castle, and only came to light again at the auction in Madryn in 1910, when it was sold for 44 2s. Od. However, there is a detailed casting of it here now, which was presented to the Church a few years ago by the late Mr. W. J. Hemp, of Criccieth, an eminent antiquarian and a sound friend of this Church.

The original building was made of wattle, mud and timber, until Norman times when a stone building was erected. The first edifice was simple, being rectangular with a small window above the altar and a door in the west wall. During the Middle Ages the Shrine of Gwynhoedl became very popular and was one of the main halts on the Pilgrim's Way to Bardsey Island. The field adjacent to the Church, and which belongs to Plas Llangwnnadl is called Cae Eisteddfa to this day, which means the place where the pilgrims would sit and rest.

This popularity made it necessary to enlarge the church, and so the south aisle was added and the arcade was built. A large perpendicular window was also placed in the east wall, and a smaller window in the south wall and also the doorway was built in the south wall as it is today.

The ascent of the Tudors to the throne of England resulted in a phase of enlarging churches in Wales, and so we have the same pattern in Llangwnnadl, when in 1520 the north aisle was added and another arcade built. Again a large window was built in the east wall and a smaller window placed in the north wall. In addition the old west door was blocked in and the small window in the east wall of the original building was removed to be inserted in the west wall of the new north aisle; traces of it can still be seen in this wall. It was replaced by a third perpendicular window which matched those in the south and north aisles. In time this northern part of the Church became the Parish School and served as such until the 19th Century.

In 1850 the Church was again renovated under the direction of the eminent architect Henry Kennedy. This resulted in the removal of the Old Chancel Screen, no doubt due to the influence of the Oxford Movement which stressed that the altar should be visible from all parts of the Church. Kennedy's work lasted for 100 years, but in 1940 urgent repairs were again necessary. These were carried out through the goodwill and generosity of Mrs. Gough of Nanhoron, a pious and kindly lady who did so much for many of the Lleyn churches. She had a close connection with the parish, being a direct descendant of the Lloyds of Nantgwnnadl, now called Plas Llangwnadl. Further renovations were undertaken in 1963 when the seating and floor among other things were renewed. A valuable and interesting gift was the new church gate on which is wrought a Celtic Cross and bears the inscription 'TY Dduw" (the House of God). It was made and gifted by Mr. W. Jones, village blacksmith at Aberdaron. Renovations to the roof were made again in the 1980s.

NEXT

 

 
 

© penllyn.com 2000-3