llangian

          

Eglwys Llangian Church

LLwybr Pererindod  Pilgrims Trail  

yr eglwys a Neuadd yr eglwys ydyw'r ddau adeilad pwysig yn y pentref Saif yr eglwys ar fymryn o godiad tir wrth ymyl y groesffordd lle mae'r ffordd o gyfeiriad Nanhoron yn dod i'r pentref. Adeilad diweddar ydyw'r eglwys, a rhannau ohoni wedi eu codi er cof am aelodau o deulu Nanhoron.

Mae tipyn o arbenigrwydd o gwmpas porth yr eglwys, wedi ei adeiladu o dderw ac eto yn gwbl addas i weddill yr adeilad cerrig. Mae'r un derw mewn rhannau o borth y fynwent yn cyfannu patrwm yr eglwys a'r fynwent, ac yn enghraifft dda o bosibiliadau cymysgu defnyddiau adeiladu yn effeithiol. Taclusrwydd a glanweithdra sydd o gwmpas yr eglwys ymhobman, yn y llwybrau a'r cloddiau a'r fynwent.

Yr oedd haul mawr golau prynhawn o Fawrth y tu allan, ond y tu mewn yn y distawrwydd oer, a swn y dail crin a swn y ffrwd wedi eu cau allan, yr oedd y golau -yn feddal ac yn esmwyth ac awgrym o foethusrwydd parchus ynddo. Goleuni gweddus iawn hefyd i'r sgrin dderw gerfiedig, a'r pulpud, a'r ddarllenfa ar ffurf eryr. Ac yng nghyffyrddiad ambr y goleuni, safai'r coflechau cerfiedig ar y muriau i goffawdwriaeth teulu Nanhoron. Milwyr a gwyr eglwysig oedd llawer ohonynt a'u hanes yn Saesneg ar furiau eglwys eu plwyf eu hunain.

Hanesion tebyg i'r un am Timothy Edwards a fu farw yn I780. Gwnaed ef yn gapten llong ryfel yn 1777, ac ymladdodd mewn pedair brwydr yn India'r Gorllewin yn erbyn y Ffrancwyr. Tebyg iawn iddo gychwyn yn ôl am adref yn wr llawen âi fryd ar wobrau ac anrhydeddau. Ond ar y degfed o Orffennaf, 1780, bu farw o dwymyn ar fwrdd y llong yn naw a deugain oed. Rhoddwyd y garreg i'w goffau ar fur yr eglwys gan Catherine Edwards, ei weddw.


Allan yn ôl eto i haul y Gwanwyn, a chau drws yr eglwys a drws y cyntedd derw yn ddistaw ar gyfrolau pres a cherrig hanes teulu'r Plas. Yn y fynwent wrth ochr yr eglwys mae carreg ithfaen ar ysgrifen 'Meli Medici Fili Martini Iacit' arni' yn gof am rywun oedd yn enwog yrnhell iawn cyn bod sôn am yr un enw arall sydd wedi ei dorri ar garreg na mynor yma.

Carreg fedd un o'r enw Melus ydoedd ac yr oedd Melus yn feddyg. Dyma'r unig enghraifft o 'medicus' ar hen garreg yng Nghymru a Lloegr. '(Carreg), Melus, y meddyg, mab Martinus. (Yma y) gorwedd.' Yn rhyfedd mae Lladin yr ysgrifen aneglur hon yn gwneud i ffwrdd â llawer o'r gwahaniaeth sydd rhwng y cerrig eraill a'i gilydd, ac yn dod â chrandrwydd y croesau Celtaidd hirfain a symledd tlawd y cerrig gleision i gynefindra yr un cyfnod.

*o crwydro Llyn ac Eifionydd, bibl.

" Onid oes yma dy i Dduw a dyma borth y nefoedd".

Personiaid y plwyf yn y ddeunawfed ganrif, y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hyd at y datgysylltiad

LLANBEDROG (Rheithor/Rector) gyda Llangian a Llanfihangel Bachellaeth (Curadiaeth/Curate)
John Willams, M.A.            1688-1709 +
John Lloyd, B.A.                1712-1730 +
David Doulben, M.A.          1731-1750 +
Lewis Jones, M.A.              1750-1759
John Roberts, M.A.            1759-1802 +
Peter Williams, M.A., D.D. 1802-1837 +
John Kyffin, M.A.              1837-1838 +
John Owen, B.A.                1838-1852
Thomas Caesar Owen, B.A. 1852-1880
James Rowlands                1880-1901
Henry Jones Manley, L.D.   1901-1934

 

Cian is mentioned in the earliest Welsh poems of the late 6th and early 7th Centuries, namely "Canu Aneurin". The annals for the year 598 A.D. speak of the Battle of Catraeth. The Celts of the far north, led by Mynydawc ap Cynan sent an army south to confront the Saxons and a famous battle was fought near the modern town of Catterick.

The northern force was annihilated and Its defeat, which rankled long in the Celtic blood, is the theme of the longest and best known of the early poems; the "Gododdin" of Aneurin, the "sovereign bard". It soon became a widely loved epic recited constantly in the surviving Celtic courts, and often retold.

To the original poem other verses were in time added, the heroes of many dynasties, unrelated to the events of the battle itself were included in the story. In this poem appears the name CIAN. Unfortunately, two persons of that name appear in the work, and it is not possible to assert which one gave his name to Llangian, if either.

But on the evidence of there being three definite periods in the dedication of churches, Llangian belongs to the earliest of these, i.e., the period of naming the "Llan" after a Celtic founder. Cian may have been a soldier, he may also have been a bard. He is said to have been a servant of St. Peris, the founder of Llanberis. Certainly both saints are commemorated on the same date, the 11th December.


The Church is an undivided rectangular structure with additional modern vestry and porch. The 15th Century roof has been retained. The west part of the building is of the 13th Century, the eastern end being an extension of the 15th Century.

In the churchyard on the south side of the Church stands a rough stone pillar. Its head is cut away to take a sundial. On the stone is a Latin inscription in three vertical lines and reading MELI MEDICI/FILI MARTINI/I(a) CIT -(The stone) OF MELUS, the DOCTOR, son of MARTINUS. He lies (here)". The mention of the deceased's secular profession is said to be exceptional, for while such details are normal in pagan Roman epitaphs, they were generally omitted by the early Christians in conformity with their professed detachment from worldly affairs. It is the only record in Britain of a - medicus" on early Christian Inscriptions. The stone is of the 5th or early 6th Century.

The parish vicars of Llangian from the 18th and 19th centuries

< + Bu Farw / Died


 

 
 

 

 

© penllyn.com 2000-3