|
Llyn
Y Tuduriaid
Wrth dynnu bonnedd Sir Gaernarfon
i wasanaeth cyhoeddus, cyrhaeddodd eu gafel cyn belled hyd yn
oed a Llyn, oedd yn gymharol boblog.Yr oedd un ran o dair o
siryfyddion Sir Gaernarfon yn ystod ugain mlynedd olaf y ganrif
yn hannu o Lyn ac Eifionydd, nad oedd wedi cyfrannu cymaint
ag un yn ystod hanner cyntaf y ganrif. Gwelwyd yr un tueddiad
yn llywodraeth yr Eglwys.
Yn
ystod y cyfnod yma hefyd, mae tystiiolaeth fod y traddodiad
barddol hir yn dal yn fyw. 'Graddiodd' William Llyn, a enwyd
fel yr unig fardd mewn oes o drai ar farddoniaeth, 'graddiodd
yn Eisteddfod Caerwys. Adnybyddid ef fel 'Bardd Llyn' gan ei
gyfoeswyr bu'n dilyn ei alwedigaeth yn Ne a Gogledd Cymru, a
bu farw yng Nghroesoswallt. Cai ef a'i debyg groeso mew plasau
fel Bowrda a Madrun. Yr oedd gan Gefnamwlch ei fardd teulu ei
hun - Morus Dwyfach - llai enwog na'i gyfoedion, a llawer llai
ysbrydoledig ei awen, yn ei gyfyngu ei hun i destunau lleol.
Erbyn
diwedd y ganrif mae Nefyn a Phwllheli yn chwarae rhan bwysicach
ym masnach Sir Gaernarfon, yn arbennig fasnach pysgod, gyda'r
byd y tu allan, ac ar yr un pryd y mae llongau lleol yn dechrau
cymryd rhan yn y fasnach yn hytyrach na'i fod i gyd yn cael
ei adael i fasnachwyr o'r tu allan.
O stad Bodfel,
rhyw ddwy filltir i'r gogledd orllewin o Bwllheli, y cymrodd
teulu lleol arall ei gyfenw wrth i gyfenwau ddod yn ffasiynol.
Nid oedd llawer o arbenigrwydd i'r teulu hyd tua chanol y ganrif.
Ond yna aeth John Wyn ap Huw yn filwr yng ngwasanaeth yr Iarll
Warwck a ddaeth yn fuan i amlygrwydd fel Dug Northumberland
oedd i bod pwrpas yn llywodraethu Lloegr ym mlynyddoed olaf
Edward V1. Ef oedd llumanwr Warwick pan orchfygwyd gwrthryfel
Ket ym Mousehold Hill, lle, fel y dywed Syr John Wyn, 'lle y
lladdwyd ei geffyl oddi tano ac y clwyfwyd yntau, eto fe ddaliod
i chwifio baner fawr Lloegr'. Cafodd ei wobrwyo yn helaeth mewn
tiroedd a swyddi gan gynnwys rhai o diroedd mynachlog Enlli
ar yr Ynys ei hun ac ar y tir mawr.
Cyhuddwyd ef o ddefnyddio'r tir a'r swyddi i hyrwyddo mor-ladron
a defnyddio'r ynys yn storfa i'r ysbail a'i safle gymdeithasol
i'w ddiogelu rhag cael ei erlyn.
Gwr
arall o Lyn a fu'n gwasanaethu'r Iarll Warwick oedd Griffith
ap John o Gastellmarch,
blaguryn o hen deulu o'r ochr ddeheuol i'r Traeth. Yr oedd
ei
daid wedi ei benodi i un o'r man swyddi yn y drefn sirol yn
fuan ar ol y Ddedf Uno, a bu ei dad yn sirydd ym 1548. Daeth
gwasanaeth Griffith gyda Iarll Warwick, fel yn achos John Wyn
ap Huw, a rhagor o flaenoriaeth: ym 1549 derbyniodd y swydd
ddylanwadol o Gwnsatabl Castell Conwy. Roedd hyn i gyd yn sylfaen
i swyddi da a phroffidiol i'w wyrion, fabwysiadodd y cyfenw
Jones, yn y ganrif ddilynol.

Yn agos i Aberdaron hefyd yr oedd
ty hyfryd Bodwrda
a ddaeth yn gyfenw i deulu tebyg iawn i deulu Bodfel. Mater
i'r dychymyg yw penderfynu beth oedd ffynhonell cyfoeth y teulu
distadl ac anadnabyddus yma i beri i un fod yn siryf ym 1584,
a thua deugain mlynedd yn ddiweddarach iddynt ail adeiladu Bodwrda
mewn briciau (defnydd adeiladu prin a drud mewn lle mor anghysbell
ar y pryd). Ni ellir ond awgrymu eu bod hwythau, fel eu cymheiriaid,
Teulu Bodfel, yn byw yn agos i'r mor.
Achau
Bodwrdda
Daeth
hen linach Griffith, o Gefnamwlch,
i amlygrwydd hefyd yn ystod y ganrif nesaf, ond yr oedynt hwythau
eisoes wedi magu siryf ym 1589. Saif Cefnamwlch hefyd rhyw ddwy
filltir o ffordd oddi wrth draeth neilltuedig. Bu un o feibion
ienga'r teulu, Capten Hugh Griffith, oedd wedi ei brentisio
yn fasnachwr yn Llundain, yn cadw busnes proffidiol fel herwlongwr
yn erbyn llongau Sbaen am flynyddoedd, ac yna ymestyn i weithrediadau
llai cyfreithlon lle'r oedd ei dad yn cynorthwyo yn ogystal
a'i frawd yng nghyfraith, William Jones Castellmarch, cofrestrydd
Beaumaris a barnwr yn ddiweddarach. Bu ymholiadau yn Llys y
Llynges ond nid ymddengys i enillion amheus y naill na'r llall
o'r ddau deulu gael eu datgelu.
Y'mhlith
y teuluoedd mwyaf urddasol yn Lleyn, ganrifoedd yn ol, ar gyfrif
gwaedoliaeth, bonedd, a chyfoeth, yr oedd y rhai a ganlyn :-Teuluoedd
Gwynus, Pistyll, Madryn,
Saethon, Nanhoron, Gastellmarch, Methlem, Carreg, Bodwrdda, Llangwnadl, Nyffryn,
Cefnamwlch, Meillteyrn, Trygarn, Tymawr, Penyberth, Gelliwig, ayyb.
Achau
Saethon
Teuluoedd y , Saethon, Llanfihangel,
LLyn.
Robert Wyn ab Ieuan ab Robert ab Hywel ab Gruffydd ab Dafydd
Vychan o Gefnamwlch, ab Ieuan ab Meredydd ab Ieuan ab Dafydd
Goch ab Trahaiarn Goch o Leyn, ab Madog
ab Rhys Gloff ab Rhyn Fychan ab Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr Mawr.
Peis-arfau Rhys ab Tewdwr oedd Llew melyn yn y maes coch. Mam Robert ab Ifan
oedd Elizabeth merch Sion Bodwrdda ab Sion ab Meredydd Fychan. Mam Robert ab
Hywel ab Gruffydd oedd Margaret ferch Rhys ab Hywel ab Madog ab Ieuan ab Einion
ab Gwgan ab Merwydd ab Collwyn, pennaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, fel y
crybwyllwyd eisoes. Mam Gruffydd ab Dafydd Fychan oedd Mallt (Matilda) ferch
Hywel ab Llewelyn
ab Gruffydd ab Llewelyn ab Dafydd ab Cynyr (Cynan) ab Tudur ab Iorwerth, o'r
Rhiw yn Lleyn: Robert a briododd Catrin ferch Rhys Wyn o Fwsoglan. Sion a briododd
Margaret ferch Robert Gruffydd o'r Plas Hen.
(Br., Cyf. III, t. d. 252.)
Achau
Carreg
Achau Carreg yn Lleyn:
Rhys ab Tewdwr mawr, Tywysog y Deheubarth.
Gruffydd ab Rhys ab Tewdwr.
Yr Arglwydd Rhys a fu farw 0.C. 1197.
Rhys Gloff, a briododd Gwerfyl merch Maelgwyn ab Cadwallon.
Madog ab Rhys, a briododd Tanglwst âch Gronwy ab Einion ab lestyn ab Gwrgant,
Arglwydd Morganwg.
Trahaiarn Gocb, Arglwydd Cymmydmaen yn Lleyn, a briododd Gwerfyl âch Madog
ab Maredydd ab Maelgwyn ab Cadwallon ab Elystan Glodrydd.
Dafydd Goch.
Sion Carreg Bach.
Ifan, a briododd Gwenllian âch Ifan âch Hywel Coetmor.
Gruffydd.
Rhobert a fu farw yn 1579, a briododd Catrin âch Rhisiart ab Sion ab Madog
o Fodwrdda. Eu plant oedd Ifan, Gruffydd, Sion, William, Rhobert, Ellis.
I Gruffydd yr oedd merch o'r enw Lowri; i William, Annes; ac i Ellis, Catrin.
Dyma fel y rhoddir achau Carreg gan Myrddin Fardd:-
Ifan ab Gruffydd ab Ifan ab Gruffydd Carreg, ab Ifan, ab Sion Carreg Bach,
ab Dafydd Goch, &c., fel âch Cefnamwlch. Ifan ab Gruffydd Carreg a briododd
Ellin merch Sion Wyn ab Hugh o Fodwrdda. Ifan ab Sion Carreg a briododd Elsbeth
merch Rhobert ab Llewelyn o Benllech. Robert Carreg a briododd Catrin merch Rhisiart
ab Sion o Fodwrdda. Ifan ab Robert a briododd Gwenhwyfar merch Madog ab Iolyn.
(Brython, Cyf. III., t. d. 432; a t. d. 453.)
Achau Methlem:
Gruffydd ab Morys ab Gruffydd (bu farw O.C. 1687) Ieuan
ab Morys ab Gruffydd ab Ifan ab Sion Carreg ab Dafydd ab
Ifan ab Dafydd Goch (Abad Enlli) ab Trahaiarn
Goch, &c., fel âch Cefnamwlch. Gruffydd ab Ieuan a briododd Margred
merch Rolant ab Robert o Fellteyrn. Ieuan ab Morys a briododd Blanche, merch
Arthur Williams, Meillionydd. Gruffydd ab Ieuan a briododd Elsbeth merch Gruffydd
ab Dafydd Fychan. Ieuan ab Sion a briododd Gwen merch Morys Gruffydd o'r Plas-du.
Morys ab Gruffydd a briododd Mary Wen o Fodeon.
(Gwel Brython, Cyf. III., t. d. 453.)
Achau LLangwnadl:
Sion Llwyd ab Francis Llwyd (bu farw O.C. 1694) ab Sion
Llwyd, ab Sion Llwyd ab Francis Llwyd ab Owain, ab Dafydd
ab Sion ab Gruffydd ab Fychain, &c.,
fel âch Cefnamwlch. Francis Llwyd a briododd Catrin merch ac Aeres Sion
Wyn o Benllech. Sion Llwyd a briododd Elsbeth merch William Wyn o'r Glyn.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 453.)
Achau Trygarn:
Rhisiart Trygarn ab Robert ab Rhisiart ab Robert ab Rhisiart ab Thomas
ab Robert ab Rhisiart b Cynfrig, ab Bleddyn, &c., fel âch Cefn Llanfair.
(Br., Cyf. III., t. d. 453.)
Achau Teulu Nanhoron:
Olrheinia y teulu hwn ei âchau i Iwythau brenhinol Cymru:-o ochr y tad
drwy Rhys ab Gruffydd ab Llywelyn Fychan ab Cynfrig, disgynydd o HyweI Dda, wyr
Rbodri Mawr, brenhin holl Gymru.
Rhys ab Gruffydd a briododd Agnes, merch ac aeres Gruffydd ab Madog
Fychan, Ysw., o Nanhoron a Llwyndyrus, y pumed disgynydd o Syr Gruffydd
Llwyd
o Gastell Dinorwig,
sir Gaerynarfon, a Thregarnedd, sir Fôn, gorwyr Ednyfed Fychan ab Cynfrig,
o Brynffanigl, sir Ddinbych. Ednyfed Fychan oedd ArgIwydd Cruccaith, ac is-gadfridog
i Llewelyn ab lorwerth, Tywysog Cymru, yn mrwydr Tegonwy, ac wedi hyny yn brif,
gynghorwr iddo. Efe oedd yn disgyn o Marchudd ab Cynan, Arglwydd Brynffanigl
ac Uwch Dulas, sir Ddinbych, drwy yr hwn y maent yn perthyn i Fostyniaid Mostyn,
Williams BuIckley, o Baron Hill, Wynuiaid o Wynnstay, Wynniaid Coed Coch, Wynniaid
Peniarth, Williams Meillionydd, Fychaniaid Nannau, ac amryw eraill.
0 ochr y fam drwy Llwydiaid Llangwnadl, Hirdrefaig, a Bronheulog. John
ab leuan o Hirdrefaig, ab John ab Meredydd ab Elywel, Arglwydd Ffriwlwyd
yn
Eifionvdd
(o deulu Gwydir) a briododd Efa, merch ac etifeddes Hywel ab Einion,
sef - Hywel y Fwyall, y chweched o Collwyn ab Tango, disgynydd o Thomas
ab
Rhodri, Arglwydd
Môn, mab Owain Gwynedd, gan Cristiana, merch Owain ab Edwyn, Arglwydd Tegeingl.
John ab Ieuan oedd tad Syr Rhisiart Gwynne, marchog, yr hwn a briododd Gwenhwyfar,
merch John ab Cadwaladr, Ysw., o'r Foelas;. ei ferch ac etifeddes a briododd
Francis Llwyd, Ysw., o Langwnadl, a Hirdrefaig, mab Owain Llwyd ab Dafydd Llwyd
ab Gruffydd ab John o Gefnamwlch (gan Catrin merch Syr Rhisiart Bulckley o Baron
Hill), disgynydd o Ddafydd Goch ab Trahaiarn Goch o Leyn, ab Madog ab Rhys Gloff,
ac o Rbys ab Tewdwr, drwy y rhai y maent yn perthyn i amryw deuluoedd urddasol
yn Lleyn ac Eifionydd. Rhisiart Edward, Ysw., o Nanhoron, y cyntaf a gymerodd
yr enw teuluol Edwards, y pumed oddiwrth Rhys ab Gruffydd, a briododd Ann, merch
ac etifeddes Fredric Wyn, Ysw., o Bodfean, drwy yr hyn y cysylltwyd Bodwyddog
a Nanhoron, Llangwnadl, Hirdrefaig a Bronheulog, yr oll yn perthyn yn ddiweddarach
i R. Lloyd.Edwards, Ysw., Nanhoron, (a elwid gynt yn Bryn y Neuoedd,) wedyn i'w
fab, F. W. Ll. Edwards, Ysw. Y mae cywyddau ar gael o waith Owain Gruffydd, Llanystumdwy,
leuan Lleyn, ac eraill, yn dwyn cysylltiad â'r Ilin-âchau hyn. Ceir
Cywydd-Marwnad i R. Edwards, Ysw., Nanhoron, yn y Brython, Cyf. IV., t. d. 340.
(Brython,
Cyf. IV., t. d. 248.)
Teulu Madryn:
Y mae teulu Madryn yn un o'r rhai mwyaf hynod ac enwog
yn Lleyn ar amryw gyfrifon. Meredydd ab Einion oedd tad
Hywel y Fwyall, yr hwn
a briododd
Gwenllian, merch
Gruffydd ab Ednyfed Fychan, o'r hon y cafodd ddau fab-Ieuan a Gruffydd.
I Ieuan yr oedd tair merch-Myfanwy, Gwenllian, ac Angharad. Angharad
oedd gwraig
Hywel
ab Grono ab Ieuan ab Grono o Hafod y Wern. Gruffydd a briododd Angharad,
ferch Tegwared y Beiswen, ordderch-fab i Llewelyn Fawr, Tywysog Gogledd
Cymru, o'r
hon y cafodd, 1af, Einion; 2il, Hywel; 3ydd, Rhys,-hynafiaid y Madryniaid
o Fadryn, Llannerch, a Charnguwch. Yr oedd Elphin yn un o hynafiaid
y teulu hwn,
ac yn
disgyn o deulu urddasol fel y canlyn :- Elphin ab Gwyddno ab Cawrdaf
ab Gorboniawn ab Dyfnwal Hen ab Edyn ab Macsen Wledig ab Llewelyn,
ewythr Elen Lluyddawg.
Elin, merch Hugh Gwynne, o Benarth, yn Eifionydd oedd fam i Love-Parry,
Ysw., tad Love-Parry,
Ysw., o Benarth, tad Margaret, mam y diweddar Syr Love-Parry, o Fadryn,
a nain yr aelod seneddol (1883) dros Fwrdeisdrefi Arfon, T. D. Love-Jones
Parry,
Ysw.,
A.C.H., o Fadryn, neu "Elphin ab Gwyddno." (Brython, Cyf. 111. t. d.
288, 117, 67.)
Teulu Bodwrdda:
Elis Elis, Ysw, o'r Ystumllyn, a briododd Mably, merch
William Lewys Anwyl, o'r Parc, Ysw., Llanfrothen, o'r hon
y cafodd Elizabeth, yr
hon a briododd
Hugh Jones,
Ysw., Bodsilin; ac Owain Elis, Ysw., o'r Ystumllyn, a briododd
Elizabeth ferch John Bodwrdda, Ysw., a chwaer i Huw Bodwrdda,
o'r hon y by
iddo fab, Owain
Elis (yr hwn a syrthiodd oddiar ei geffyl, rhwng y Faerdref a Nanhoron,
ac a fu farw),
a merch ac etifeddes Margred Elis, yr hon a briododd John Wyn,
Ysw., o Benyberth, yr hon a fu farw Medi 22ain, 1712.-
Bu John Wyn, Bodwrdda,
yn
Sirydd yn 1584;
Huw Bodwrdda yn 1606; a John Bodwrdda yn 1606.
(Brython, Cyf. Ill., t. d. 293.)
Ceir crybwyllion lluosog a diddorol am Achau teuluoedd :-
Penyberth, Castellmarch, Tymawr, Pistyll, Gwynus, Llanerch, &c.,
yn y Brython, Cyf. III. tudal. 287-295. Prawf hyn y
gall Lleyn ymffrostio cyimaint âg odid un rhan
o'r Dywysogaeth mewn meddu boneddigion o urddas a gwaedoliaeth,
yn ogystal âg enwogion
o bob natu'r. (Brython, Cyf. 111., 234.)
|
Tudor
Llyn
In
drawing the Caernarvonshire gentry into the public service the
Tudors stretched their hand even to distant (but relatively
populous) Llyn. A third of Caernarvonshire's sheriffs during
the last twenty years of the century were drawn from Llyn and
Eifionydd, which had supplied not a single one during the first
fifty years; the same phenomenon occured in the government of
the Church.
During
this period there is also evidence that the long bardic tradition
was still very much alive. William Llyn, who has been called
the only bard, in an age of decline, worthy of comparison with
the great figures of the preceding generation from whom he learned
his craft, 'graduated' at the Caerwys eisteddfod. Known to contemporaries
as ' the bard of Llyn ', he plied his profession in both North
and South Wales, and died at Oswestry. He and his like were
welcomed at such houses as Bodwrda and Madrun; Cefnamwlch had
its own less distinguished household bard in Morus Dwyfech,
whose muse did not range far beyond local themes.
Towards
the end of the century Nefyn and Pwllheli are taking an increasing
part in Caernarvonshire's trade, especiallv in fish, with the
outside world, and at the same time local shipping is beginning
to participate, instead of leaving it all to merchants from
outside.
Some two miles north-west of Pwllheli
lay the estate of Bodfel,
from which another local family took its name once surnames
came into fashion. Until about the middle of the century its
record remained undistinguished; then John Wyn ap Hugh took
service under the earl of WarwickÑsoon to achieve notoriety
as the duke of North umberland who virtually ruled England in
the later years of Edward VI. He was Warwick's standard bearer
when Ket's rebellion was crushed at Mousehold Hill, where (as
Sir John Wynn tell us) ' his hors was slaine under him and himself
hurt and yett he upheld the great stander of England'. For this
he was richly rewarded with both offices and lands, including
some of the former lands of the abbey of Bardsey on the island
itself and on the mainland.
He was accused of using both offlce and land to promote piracy,
with the island as a depot for his loot and his public position
to shield him from prosecution.
Another son of Llyn who entered
the service of the same earl of Warwick was Grifflth ap John
of Castellmarch (near
Aberdaron)Ñscion of a very ancient family originating south
of the Traeth. His grandfather had been appointed to one of
the minor offices in the county hierarchy soon after the Act
of Union, and his father became sheriff in 1548. Griffith's
service with the earl of Warwick, like John Wyn ap Hugh's, brought
with it further advancement: in 1549 he was given the influential
post of constable of Conway. All this laid a firm foundation
for distinguished and lucrative careers for his sons and grandsons
(who took the name of Jones) in the next century.
Also near Aberdaron was the fair
house of Bodwrda,
which gave its name to a family closely akin to the Bodvels.
What was the source of the wealth which enabled this ancient
but hitherto inconspicuous family to qualify for the office
of sheriff in 1584, and some forty years later to rebuild Bodwrda
in brick (a rare and long unique building material for so
remote
a region) is a matter of guesswork; one can only observe that,
like their kinsmen of Bodfel, they lived conveniently near
the
sea.
Bodwrdda
liniage
The equally ancient stock of Griffith
of Cefnamwlch, some
six miles to the north, came into its own in the next century,
but it too had supplied a sheriff by 1589. Cefnamwlch lies only
a couple of miles from a sequestered shore; a younger son of
the house, Gaptain Hugh Griffith, apprenticed to a London merchant,
had for years carried on a profitable privateering business
against Spain, and then extended it to less legitimate operations,
in which his father participated, as well as his brother-in-law
William Jones of Castellmarch, recorder of Beaumaris and a future
judge. There were investigations at the court of admiralty,
but it does not appear that the dubious gains of the two families
were ever disgorged.
|